Gweithdai addysg a DPP
Beth rydyn ni'n ei gynnig
Datblygiad a chefnogaeth ysgol gyfan o bell
Gellir gwneud hyn trwy gynadledda fideo ac e-bost i ddarparu cefnogaeth a chynllunio ar draws y cwricwlwm.
Datblygiad yn yr ysgol
Yn cyd-fynd â dyluniad eich cwricwlwm ac yn gysylltiedig â'ch Cynllun Datblygu Ysgol.
Gallwn:
- gweithio gyda chi i ymgorffori drama mewn polisi ac ymarfer ar draws y cwricwlwm – o fwriad i effaith
- paratoi adnoddau a gweithdai o amgylch thema neu bwnc penodol
- eich helpu chi i baratoi ar gyfer mentrau lleo, cenedlaethol, rhyngwladol a llywodraethol newydd
DPP a gweithdai wedi'u modelu
Gallwn:
- archwilio technegau drama gan ddefnyddio cyd-destunau ar draws y cwricwlwm neu ganolbwyntio ar feysydd dysgu penodol
- enghreifftio sut y gall y gweithgareddau ysgogi a galluogi dysgu effeithiol
- gwneud sesiynau'n gynhwysol fel bod pawb yn dechrau yn eu parth cysur cyn symud i'w
parth dysgu a byth i'w parth panig!
Gweithdai pwrpasol gyda phlant a staff
Gallwn:
- cynllunio sesiynau cyfoethogi mewn ymgynghoriad â chi
- defnyddio cyd-destunau a dibenion ystyrlon sy’n gysylltiedig ag anghenion eich disgyblion a chwricwlwm eich ysgol. Er enghraifft: iechyd meddwl a lles; S.M.S.C; cyfleoedd dilys ar gyfer darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm
- cynllunio ar gyfer digwyddiadau calendr penodol e.e. Diwrnod y Llyfr
Gweithdai a chyflwyniadau cynhadledd
Cysylltwch â ni i drafod eich ffocws dymunol.